top of page

....menter gymdeithasol annibynnol sy’n cefnogi adfywio cymunedol, cynaliadwy ym Mro Ddyfi a thu hwnt....

​Roedd Ecodyfi yn ymddiriedolaeth ddatblygu annibynnol wedi’i lleoli ym Machynlleth, a sefydlwyd ym 1998. Mae bellach wedi trosglwyddo ei gweithgareddau i Biosffer Dyfi ac mae’r wefan hon yn cynrychioli archif o’i gwaith hyd at ganol 2024. Mae ei chofnodion yn cael eu harchifo ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru: darllenwch fwy.

Ymgynghoriaeth

Roedd COBWEB yn gynllun 4 mlynedd oedd yn galluogi dinasyddion i gasglu data amgylcheddol gan ddefnyddio teclynnau symudol. Mae’r data yn addas i’w ddefnyddio mewn ymchwil, gwneud penderfyniadau a ffurfio polisi. Lleolwyd y cynllun yn ardal Biosffer Dyfi; rhoddodd ecodyfi gefnogaeth i gyrff ac unigolion lleol fonitro cynefinoedd a dysgu mwy am y Biosffer.

Gwybodaeth ar gyfer trigolion, ymwelwyr a busnesau ar wastraff, ariannu, ynni, beth i wneud, teithio a diwylliant
community_edited.png

Darllenwch am weledigaeth ecodyfi ar gyfer adfywio cynaliadwy, creu economi werdd ac adeiladu cymuned gref.

Prosiectau
project.jpg

Canfyddwch y prosiectau y mae ecodyfi a'i bartneriaid yn gweithio arnynt ar hyn o bryd.

Mae ecodyfi’n cynnig gwasanaethau ymgynghorol ar sail gwybodaeth unigryw a mynediad i rwydweithiau lleol yn ogystal â’r gallu i weithio’n ddwyieithog

NEWYDDION

Fforwm Blynyddol a CCB ecodyfi

Cynhaliwyd ar-lein nos Iau 30 Tachwedd 2023

Bu'r aelodau'n trafod bod ecodyfi yn cymryd rhan amlycach yn rheoli Biosffer Dyfi yn ogystal â symud ymlaen i arweinyddiaeth newydd.

Dogfennau isod

- Recordiad o'r cyfarfod

- Rhaglen

- Adolygiad Ecodyfi - crynodeb

- Cyfrifon Drafft 2022-3

Gweithredu Hinsawdd

Mae ecodyfi yn eich cefnogi i
gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref,
benthyg camera thermol,
llogi efeic,
a chymryd rhan mewn gweithredu hinsawdd lleol eraill.

Cliciwch ar y linc yma i gael mwy o wybodaeth.

Ymunwch a’n rhestr ddosbarthu

Tanysgrifiwch ar gyfer diweddariadau cymunedol

Gan gynnwys;

  • Swyddi ar gynnig

  • Cyfarfodydd cymunedol

  • Gwybodaeth gymunedol

  • Materion cynaliadwyedd

  • Digwyddiadau

bottom of page